Cynadleddau Maethu i’r Dyfodol
Rydym wrth ein bodd o’ch gwahodd i fynychu’r gyntaf yn ein cyfres newydd o gynadleddau blynyddol, “Maethu i’r Dyfodol”.
Ymunwch â ni i gymryd rhan mewn trafodaeth ynglŷn â’r heriau sy’n wynebu’r gyfundrefn ofal, i glywed am arloesi mewn gofal maeth ac i archwilio’r potensial ar gyfer datblygu arferion.
Bydd y gynhadledd yn darparu fforwm ar gyfer dadl a dysgu, gyda mewnbwn gan nifer o gyfranwyr fydd yn herio’n meddylfryd, gan ddod â safbwyntiau o’r newydd a mewnwelediadau gweledigaethol.