Pump o bethau y mae arnoch angen eu hystyried wrth wynebu honiad
Alun: Sesiwn Holi ac Ateb
Ers faint rydych wedi bod yn gweithio ar Llinell Faethu Cymru?
Rwyf wedi bod yn gweithio dros Llinell Faethu Cymru ers bron i 10 mlynedd. Derbyniodd y llinell gynghori ei galwad gyntaf ym mis Mehefin, 2006.
Beth mae’n ei olygu i fod yn gydgysylltydd gwybodaeth a chynghori?
Y fi sy’n sicrhau bod Llinell Faethu Cymru bob amser ar gael ac yn ymatebol ac yn gallu ateb ymholiadau. Mae gennym gysylltiad rheolaidd drwy ffôn ac e-bost oddi wrth amrywiaeth o grwpiau, sef gofalwyr maeth a gweithwyr cymdeithasol gan amlaf, ond hefyd perthnasau plant sy’n derbyn gofal ac aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth.
Pam oedd arnoch eisiau cymryd rhan yn Llinell Faethu Cymru?
Rwyf wedi bod yn rheolwr maethu dros dro ac yn rheolwr adolygu annibynnol mewn gwasanaethau cymdeithasol, sydd wedi rhoi gwybodaeth drylwyr imi am sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn gweithio a pham, weithiau, nad ydynt yn gweithredu fel y dylent. Mae fy mhrofiad wedi fy arwain hefyd i barchu ac i edmygu llawer ar ofalwyr maeth, ac felly pan gododd y cyfle i fod yn gysylltiedig â Llinell Faethu Cymru, roeddwn wrth fy modd o allu rhoi cymorth ymarferol gan ddefnyddio fy ngwybodaeth a’m sgiliau presennol.
Beth sydd orau ynglŷn â’r swydd?
Rhoi hyder i ofalwyr maeth eu bod yn gwneud gwaith da a cheisio’u grymuso i ddal ati hyd yn oed os ydynt yn wynebu heriau caled. Rwyf yn mwynhau bod yn eiriolwr dros ofalwyr maeth.
Beth yw’r materion mwyaf cyffredin y mae pobl yn eich ffonio amdanynt?
Mae cwestiynau ynglŷn â honiadau, lwfansau, trethi ac yswiriant gwladol ymysg y materion mwyaf cyffredin yr awn i’r afael â nhw. Mae fy nghydweithwyr a minnau droeon lawer yn gallu ystyried beth a all fod yn sefyllfaoedd hynod emosiynol o safbwynt mwy gwrthrychol er mwyn cynnig datrysiadau proffesiynol ac ymarferol.
Cyngor os gwneir honiad
Yn anffodus, mae wynebu honiad yn rhywbeth y bydd rhai gofalwyr maeth yn ei brofi yn ystod eu gyrfa yn maethu. Fe all fod yn amser eithriadol o drallodus i bawb sy’n gysylltiedig. Yn y post blog hwn, amlinellais bump o bethau y teimlaf sy’n bwysig ichi’u gwneud os byddwch byth yn wynebu honiad.
1. Os cewch eich hysbysu am honiad gan wasanaethau cymdeithasol, cofnodwch yr holl fanylion ac wedyn, os ydych yn byw yng Nghymru, ffoniwch Llinell Faethu Cymru am gyngor a chefnogaeth ar 0800 316 7664 (am ddim o ffôn llinell tir neu o ffôn symudol ym Mhrydain) 9.30yb-12.30yp o ddydd Llun i ddydd Gwener. Os ydych yn byw yn rhywle arall yn y Deyrnas Unedig, mae llinellau cymorth eraill ar gael.
2. Gofynnwch i weithiwr cymorth eich asiantaeth neu’ch rheolwr maethu gadarnhau contract ar gyfer gwasanaeth cymorth annibynnol (ISS) ichi. Amlinellir hyn yn Safonau Gofynnol Cenedlaethol (Cymru) 2003. Gall staff Rhwydwaith Maethu Cymru drefnu Gwasanaeth Cymorth Annibynnol. Fe allwch gysylltu â nhw ar 0292044 0940.
3. Os ydych yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu, ffoniwch ein llinell cyngor cyfreithiol 24/7 ar 0345 013 5004 i’w hysbysu am yr wybodaeth sydd gennych hyd yn hyn.
4. Os bydd yr Heddlu’n cysylltu â chi am gyfweliad yng ngorsaf yr heddlu, nodwch enw a rhif ffôn gorsaf yr heddlu ac atebwch, ‘Byddaf yn mynychu’r cyfweliad gyda fy nghyfreithiwr’. Wedyn, ffoniwch Linell Cyngor Cyfreithiol Y Rhwydwaith Maethu ar 0345 013 5004, a bydd yna gyfreithiwr yn trefnu amser gyda’r heddlu i chi ac i’r cyfreithiwr fynychu’r cyfweliad.
5. Darllenwch y llyfryn Signpost in Fostering: Allegations sydd ar gael yma.
I gael mwy o wybodaeth am honiadau, darllenwch y cyngor penodol ar ein gwefan, os gwelwch yn dda.
Yn ychwanegol at Llinell Faethu Cymru, mae gennym hefyd linellau cymorth yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n darparu gwybodaeth a chanllawiau ar yr holl faterion sy’n effeithio ar ofalwyr maeth a gwasanaethau maethu.