Rydym yn falch o gyhoeddi bod Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl wedi’i lansio yng Nghymru yn 2023.  A hithau’n cael ei chefnogi gan Sefydliad KPMG a Llywodraeth Cymru, mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i wella deilliannau’n aruthrol i deuluoedd â phlant ar gyrion gofal.  Byddwn yn ceisio cynnal darpariaeth ymhellach na chyfnod arian y grant, a dangos model y mae modd ei helaethu i’w gyflwyno fesul cam eto yng Nghymru a’r tu hwnt.  

Gwahoddodd Y Rhwydwaith Maethu ddatganiadau o ddiddordeb gan y 22 o awdurdodau lleol Cymru.  Rydym wedi nodi Cyngor Sir Benfro i dreialu Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl fel rhan o’n rhaglen arddangos, ac rydym yn y gwaith o gadarnhau’r ail Awdurdod Lleol.

Mynegodd Melanie Evans o Gyngor Sir Benfro fod Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yn ei gwneud hi’n ‘obeithiol a dyheadol’ dros deuluoedd, timau, gwasanaethau a chymunedau. 

Mae’r lefel o bartneriaeth a chydweithredu o fewn Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl rhwng Y Rhwydwaith Maethu, Awdurdodau Lleol, teuluoedd a chymunedau yn enghraifft o ragoriaeth.  Mae ymrwymiad gan y tîm maethu, timau diogelu a chymorth i deuluoedd, gofalwyr maeth, rhieni a’r plant a’r bobl ifanc eu hunain yn hanfodol er mwyn i’r rhaglen o fod o wir werth.    

Bydd Cascade yn cynnal gwerthusiad ffurfiol o’r rhaglen, ac rydym yn llawn cyffro o dreialu’r ap ‘For Mi’ fel rhan allweddol o’n prosesau casglu ac adrodd am ddata. 

Cysylltwch â Ni 

Os hoffech fwy o wybodaeth am y rhaglen ei hun neu am y broses datganiadau o ddiddordeb, a fyddech cystal â chysylltu â ni trwy gysylltu â [email protected] neu â Rheolwr y Rhaglen, Rhian, drwy [email protected].