Maethu Lles

Maethu Lles

Mae Maethu Lles yn rhaglen arloesol a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Y Rhwydwaith Maethu, sydd â’r nod o wella deilliannau lles i blant a phobl ifanc.   

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo cydraddoldeb statws i bawb sy’n gysylltiedig â’r ‘tîm o amgylch y plentyn’, yn cynnwys gofalwyr maeth.  Mae’n annog gweithwyr proffesiynol i gydweithio gydag ymagwedd ar y cyd, gan greu iaith gyffredin a chaniatáu i arferion gorau drosglwyddo ledled ffiniau’r gwasanaeth.

Mae’n gwneud hyn trwy ddwy brif elfen:

  • Pum dosbarth meistr ar-lein – i alluogi gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill yn y tîm o amgylch y plentyn i ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i helpu i ysbrydoli plant a phobl ifanc i gyflawni’u potensial trwy ddull un tîm o weithredu.
  • Gofalwyr maeth arloesol – bydd gofalwyr maeth profiadol, yn ychwanegol at y sgiliau a’r profiad a ddônt i’r rôl, yn derbyn hyfforddiant a chefnogaeth i’w helpu i raeadru dysg o fewn eu gwasanaeth. 

Am fwy o wybodaeth am Maethu Lles, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch 02920 440940. 

Ar gyfer ymholiadau gan y cyfryngau, anfonwch e-bost at tîm cyfryngau Y Rhwydwaith Maethu, ffoniwch 020 7620 6441. 

Canfyddwch fwy o wybodaeth am ein gwaith ehangach yng Nghymru.