Er 2005, mae cylchgrawn pobl ifanc Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, Ffynnu, wedi bod yn fath pwysig o gymorth i bobl ifanc mewn gofal maeth.
Mae cylchgrawn Ffynnu yn darparu gwybodaeth a chanllawiau hygyrch, dibynadwy ac o ansawdd da ar faterion sy’n bwysig iddynt. Ei nod yw helpu pobl ifanc mewn gofal maeth i deimlo nad ydynt ar eu pen eu hunain, trwy ddarparu delfrydau ymddwyn cadarnhaol i gymheiriaid, a’i nod yw bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth i bobl ifanc.