Ein gwaith yng Nghymru

Rydym yn falch mai y ni yw’r rhwydwaith hanfodol ar gyfer maethu yng Nghymru.

Cynigiwn ystod o wasanaethau, hyfforddiant a phrosiectau arloesol i gynorthwyo’n haelodau. Rydym hefyd yn gweithio i wella’r sector maethu ehangach.

Dyma rai o’r ffyrdd y gwnawn effaith gadarnhaol ar ofal maethu yng Nghymru:

Cynghorion, gwybodaeth a hyfforddiant

  • Llinell faethu Cymru

Mae ein llinell gynghori’n darparu gwybodaeth, arweiniad a chefnogaeth ar bob mater sy’n effeithio ar wasanaethau maethu a gofalwyr maeth yng Nghymru. Ffoniwch ni ar 0800 316 7664 neu anfonwch e-bost atom yn fosterlineswales@fostering.net. Rydym yn agored o 9.30yb - 12.30yp o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau’r Banc). Ariannir Llinell Faethu Cymru gan Lywodraeth Cymru. Gallwch siarad â rhywun yn Saesneg neu yn Gymraeg.

  • Hyfforddiant

Cynigiwn raglen weminar i ofalwyr maeth, yn ogystal â diweddariadau sy’n benodol i Gymru ar gyfer y sector. Am fwy o wybodaeth, neu i gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â wales@fostering.net

Gall gwasanaethau maethu ledled Cymru hefyd gomisiynu hyfforddiant gennym. Gallwn ddarparu cyrsiau unigol neu becynnau o gyrsiau ar amrywiaeth o bynciau i ddiwallu anghenion eich gwasanaeth. Gellir teilwra’n hyfforddiant ‘mewn swydd’ i ddod â budd i bob gweithiwr proffesiynol yn y tîm o amgylch y plentyn, tra bod ein cyrsiau agored yn cyfarparu unigolion yn eich tîm â’r wybodaeth y mae arnynt ei hangen i wella’u rôl. Am fwy o wybodaeth am yr hyfforddiant a gynigiwn, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda.

  • Cymorth annibynnol

Gall cymorth annibynnol fod yn hanfodol i ofalwyr maeth pan fônt yn wynebu honiadau neu anghydfodau eraill. Gall Y Rhwydwaith Maethu ddarparu cymorth annibynnol i ofalwyr maeth trwy’u gwasanaeth maethu, trwy amrywiaeth o ddulliau ledled y Deyrnas Unedig.

Ein prosiectau a'n rhaglenni

Cynhaliwn nifer o brosiectau a rhaglenni arloesol ledled Cymru, pob un â’r nod o dyfu a rhannu arferion a seilir ar dystiolaeth.

Rydym hefyd yn gweithio gyda sefydliadau eraill, ymchwilwyr a Llywodraeth Cymru i ddarparu modd iddynt glywed barnau a phrofiadau gofalwyr maeth.

  • Maethu Lles

Mae Maethu Lles yn rhaglen arloesol, a ariannir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Y Rhwydwaith Maethu, sydd â’r nod o wella deilliannau lles i blant a phobl ifanc.

Mae’r rhaglen yn hyrwyddo cydraddoldeb statws i bawb sy’n gysylltiedig â’r ‘tîm o amgylch y plentyn’, yn cynnwys gofalwyr maeth. Mae’n annog gweithwyr proffesiynol i gydweithio gydag ymagwedd ar y cyd, gan greu iaith gyffredin a chaniatáu i arferion gorau drosglwyddo ledled ffiniau’r gwasanaeth.

  • Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl

Lansiwyd Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl yng Nghymru yn 2023, a Sir Benfro oedd yr awdurdod lleol cyntaf i dreialu’r rhaglen. Bydd ail awdurdod lleol yn ymuno â’r cynllun

peilot yn o fuan. A hithau’n cael cefnogaeth gan Sefydliad KPMG a Llywodraeth Cymru, mae’r rhaglen yn cynnig cyfle i wella’n aruthrol ddeilliannau i blant sydd ar gyrion gofal. Byddwn yn defnyddio’r cynllun peilot hwn i ddangos p’un a all Camu i’r Adwy Cyn Camu Yn Ôl ddod â buddion sylweddol ledled Cymru.

  • Cylchgrawn Ffynnu

Ffynnu yw’n cylchgrawn dwyieithog i bobl ifanc sy’n byw mewn gofal maeth. Mae pob rhifyn yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar faterion sy’n bwysig i bobl ifanc, megis eu hawliau mewn gofal, addysg, iechyd meddwl ac arian.

 

Annog cyfranogi

  • Bwrdd cynghori gofalwyr maeth

Daw’r bwrdd hwn â gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau ynghyd â gweithwyr proffesiynol eraill ym maes gofal i helpu i lunio, i wella ac i adeiladu sector maethu cryfach ledled Cymru.

Ymysg pethau eraill, mae’r bwrdd yn:

  •  darparu gwybodaeth, cynghorion a chymorth i’r Rhwydwaith Maethu yng Nghymru ynglŷn â rhaglenni gwaith cyfredol, yn cynnwys ymgyrchoedd a gwaith polisi.
  • sicrhau y caiff llais gofalwyr maeth ei gynrychioli o fewn arferion maethu a datblygu polisi.
  • rhannu dysg, gwybodaeth a chymorth â’r gymuned faethu leol a chenedlaethol.
  • annog rhwydweithio a chefnogaeth gan gymheiriaid. Am fwy o wybodaeth am y bwrdd, anfonwch e-bost at wales@fostering.net
  • Bwrdd cynghori personau ifainc.

Daw’r bwrdd hwn â phobl ifanc (14 oed a hŷn) ynghyd sydd â phrofiad gofal. Mae’n darparu lle cydgynhyrchu ar sail perthynas ac sy’n ystyrlon i bobl ifanc i hysbysu a thywys gwaith Y Rhwydwaith Maethu. Canfyddwch fwy o wybodaeth.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r bwrdd, a fyddech cystal ag anfon e-bost at Alexandra Atkins, Rheolwr Cymunedau Maethu.

  •  Fforwm gwasanaethau maethu.

Mae’r Rhwydwaith Maethu yn hwyluso cyfarfodydd rheolaidd fforwm y gwasanaethau maethu. Mae hyn yn darparu cyfle inni ymgynghori â’r sector a rhoi’r wybodaeth fwyaf cyfoes iddynt am ddatblygiad o fewn Y Rhwydwaith Maethu a’r sector maethu ehangach. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â wales@fostering.net

Dylanwadu ar lunwyr penderfyniadau

Mae’r Rhwydwaith Maethu yn dylanwadu ar lunwyr polisïau a phenderfyniadau lleol a chenedlaethol yng Nghymru i wella bywydau plant a phobl ifanc mewn gofal maeth.