Why men who foster need to support each other
The Fostering Network in Wales has recently produced a resource to help fostering services establish support groups for male foster carers, with a particular focus on newly approved male carers. The resource was written by two experienced male foster carers, with input from several other men. Here, one of the writers explains why they believe the resource – and the support groups – to be so vital.
Being a foster carer is incredibly rewarding, but it can also be extremely challenging. It can push you out of your comfort zone, stretch your parenting skills and strain your emotions in a way that few other ‘jobs’ can. At the same time, however, unlike many other roles, there are not many people who understand what you are going through. Speaking from personal experience, as a foster carer of more than a decade, I would say that even my best friends don’t really ‘get it’. Some of this lack of understanding is because, as a foster carer, you can’t always share what’s going on in your life and the lives of the children in your care because of confidentiality; some is owing to a misconception people have of fostering; and some is, I think, because unless you’ve been a foster carer, you can’t fully understand what foster carers experience.
Whatever the reason, fostering can be a lonely role – yet, because of its challenges, it’s vitally important that foster carers have a support network around them, helping them practically and emotionally. Over the years, The Fostering Network has heard from male foster carers time and again that they can feel isolated; that they struggle to build relationships with other foster carers; that they are having to bottle up their emotions because there’s no-one to share them with (even if they have a partner, male foster carers talk about not wanting to over burden them because they are going through the same emotional turmoil). We also hear –controversially perhaps! - that female foster carers find it easier to build relationships with other foster carers and, because they tend to be less likely to combine fostering with another job, they find it easier to attend support groups during the day.
Male foster carers need support and we believe that other male foster carers can be best placed to offer that support. We would like to see networks of peer support groups for male foster carers across Wales (and the rest of the UK), and we hope that the resources we have written will help with establishing support groups primarily aimed at newly approved foster carers. While we anticipate that newly approved carers will make up the majority of each group, the intention is that the groups will be peer-led by experienced male foster carers, and there may be other experienced carers as part of the group.
Flourishing ‘men who foster’ support groups will be of benefit to the male foster carers who attend, but we also believe that better supported foster carers will mean better experiences and outcomes for the children in their care. Male foster carers have a vital role to play in the lives of the children in their care – whether they consider themselves to be a primary carer or ‘simply’ supporting their partner as the main foster carer. We hope that the establishment of support groups will reinforce the importance of positive male role models, as well as provide the much-needed encouragement and friendship that men who foster need.
The Fostering Network would love to hear from you if you have a ‘men who foster’ support group that is working well, or if you establish one using this resource. Email us at wales@fostering.net.
About the resource
The support group resource has been written by two experienced male foster carers, in collaboration with a wider group of male foster carers whose contribution has been invaluable. The idea is to start with a series of three meetings, with the hope that the men attending those groups will develop friendships, see the benefits of meeting, and choose to keep the group going after these initial three sessions. The contents of the guide are intended as a starting point and are extremely flexible. The first session is a ‘getting to know you session’, and a range of ideas are given for sessions two and three. However, we expect that each group will help shape the format and content of their group to best suit their needs.
Ideas provided for the sessions include:
- Being a role model
- Perceptions of male carers in society
- Safer caring
- The emotions of fostering
- The importance of support networks
- Continuing the group beyond the first three meetings.
Read the guide here in English and Welsh. Read the support session PowerPoint here in English and Welsh.
You can also find these resources here.
Pam mae ar ddynion sy’n maethu angen cefnogi’i gilydd
Cynhyrchodd Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru adnodd yn ddiweddar i helpu gwasanaethau maethu i sefydlu grwpiau cymorth i ofalwyr maeth gwrywaidd, gan ganolbwyntio’n neilltuol ar ofalwyr gwrywaidd sydd newydd eu cymeradwyo. Ysgrifennwyd yr adnodd gan ddau ofalwr maeth gwrywaidd profiadol, gyda chyfraniad gan amryw o ddynion eraill. Yma, mae un o’r ysgrifenwyr yn egluro pam maent yn credu bod yr adnodd - a’r grwpiau cymorth - mor hanfodol.
Mae bod yn ofalwr maeth yn anhygoel o werth chweil, ond gall hefyd fod yn eithriadol o heriol. Gall eich gwthio o’ch parth cyfforddus, ymestyn eich sgiliau rhianta a rhoi pwysau ar eich emosiynau mewn ffordd y gall ond ychydig o ‘swyddi’ eraill ei wneud. Fodd bynnag, ar yr un pryd, yn wahanol i lawer o rolau eraill, nid oes yna lawer o bobl yn deall beth rydych yn ei brofi ac yn mynd drwyddo. A siarad o brofiad personol, fel gofalwr maeth ers dros ddegawd, fe ddywedwn nad yw hyd yn oed fy nghyfeillion gorau yn ei wirioneddol ddeall. Mae rhywfaint o’r diffyg dealltwriaeth hwn oherwydd, fel gofalwr maeth, na allwch bob amser rannu beth sy’n digwydd yn eich bywyd ac ym mywydau’r plant yn eich gofal oherwydd cyfrinachedd; mae rhywfaint o ganlyniad i gamsyniad sydd gan bobl am faethu; ac mae rhywfaint, fe gredaf, oherwydd oni bai eich bod wedi bod yn ofalwr maeth, ni allwch lwyr ddeall beth mae gofalwyr maeth yn ei brofi.
Beth bynnag y bo’r rheswm, gall maethu fod yn rôl unig – ac eto, oherwydd ei heriau, mae’n hanfodol bwysig bod gan ofalwyr maeth rwydwaith cymorth o’u hamgylch, gan eu helpu’n ymarferol ac yn emosiynol. Dros y blynyddoedd, clywodd Y Rhwydwaith Maethu gan ofalwyr maeth gwrywaidd dro ar ôl tro y gallant deimlo’n ynysig; eu bod yn ei chael hi’n anodd magu perthnasoedd â gofalwyr maeth eraill; eu bod yn gorfod cronni’u hemosiynau oherwydd nad oes yna neb i rannu â nhw (hyd yn oed os oes ganddynt gymar, mae gofalwyr maeth gwrywaidd yn siarad am beidio â bod eisiau bod yn ormod o faich arnynt oherwydd eu bod yn mynd drwy’r un cythrwfl emosiynol). Clywn hefyd - yn ddadleuol, efallai! - fod gofalwyr maeth benywaidd yn ei chanfod hi’n haws magu perthnasoedd â gofalwyr maeth eraill, ac oherwydd eu bod yn tueddu i fod yn llai tebygol o gyfuno maethu â swydd arall, maent yn ei chael hi’n haws mynychu grwpiau cymorth yn ystod y dydd.
Mae ar ofalwyr maeth gwrywaidd angen cymorth, a chredwn mai gofalwyr maeth gwrywaidd eraill a all fod yn y sefyllfa orau i gynnig y cymorth hwnnw. Hoffem weld rhwydweithiau o grwpiau cymorth gan gymheiriaid ar gyfer gofalwyr maeth gwrywaidd ledled Cymru (a gweddill y Deyrnas Unedig), a gobeithiwn y bydd yr adnoddau rydym wedi’u hysgrifennu yn helpu â’r gorchwyl o sefydlu grwpiau cymorth sydd wedi’u hanelu’n bennaf at ofalwyr maeth sydd newydd eu cymeradwyo. Er ein bod yn rhagweld y bydd gofalwyr sydd newydd eu cymeradwyo yn ffurfio’r mwyafrif o bob un grŵp, y bwriad yw y caiff y grwpiau eu harwain gan ofalwyr maeth gwrywaidd profiadol sy’n gymheiriaid, ac efallai y bydd yna ofalwyr profiadol eraill fel rhan o’r grŵp.
Bydd grwpiau cymorth ‘dynion sy’n maethu’ ffyniannus o fudd i’r gofalwyr maeth gwrywaidd sy’n mynychu, ond credwn hefyd y bydd gofalwyr maeth a gaiff well cymorth yn golygu gwell profiadau a deilliannau i’r plant yn eu gofal. Mae gan ofalwyr maeth gwrywaidd rôl hanfodol ym mywydau’r plant yn eu gofal – p’un a ydynt yn ystyried eu hunain yn brif ofalwr neu ‘ddim ond’ yn cynorthwyo’u cymar fel y prif ofalwr maeth. Gobeithiwn y bydd sefydlu grwpiau cymorth yn atgyfnerthu pwysigrwydd delfrydau ymddwyn gwrywaidd cadarnhaol, yn ogystal ag yn darparu’r anogaeth a’r cyfeillgarwch gwir eu hangen y mae ar ddynion sy’n maethu eu hangen.
Byddai’r Rhwydwaith Maethu wrth ei fodd o glywed gennych os oes gennych grŵp cymorth ‘dynion sy’n maethu’ sy’n gweithio’n dda, neu os ydych yn sefydlu grŵp drwy ddefnyddio’r adnodd hwn. Anfonwch e-bost atom yn wales@fostering.net.
Ynglŷn â’r adnodd
Ysgrifennwyd adnodd y grŵp cymorth gan ddau ofalwr maeth gwrywaidd profiadol, mewn cydweithrediad â grŵp ehangach o ofalwyr maeth gwrywaidd y mae’u cyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy. Y syniad yw dechrau â chyfres o dri chyfarfod, gyda’r gobaith y bydd y dynion sy’n mynychu’r grwpiau hynny’n datblygu cyfeillgarwch, yn gweld y buddion o gyfarfod, ac yn dewis cynnal y grŵp i barhau ar ôl y tri sesiwn cychwynnol hyn. Y bwriad yw bod cynnwys y canllaw yn fan dechrau a’u bod yn eithriadol o hyblyg. Mae’r sesiwn cyntaf yn ‘sesiwn dod i’ch adnabod’, a rhoddir ystod o syniadau ar gyfer sesiynau dau a thri. Fodd bynnag, disgwyliwn y bydd pob un grŵp yn helpu i lunio fformat a chynnwys eu grŵp i i ddiwallu’u hanghenion yn y modd gorau.
Mae syniadau a ddarparwyd ar gyfer y sesiynau yn cynnwys:
- Bod yn ddelfryd ymddwyn
- Canfyddiadau o ofalwyr gwrywaidd yn y gymdeithas
- Gofalu diogelach
- Emosiynau maethu
- Pwysigrwydd rhwydweithiau cymorth
- Parhau â’r grŵp ar ôl y tri chyfarfod cyntaf.
Darllenwch y canllaw yma yn Saesneg ac yn Gymraeg. Darllenwch y PowerPoint am sesiwn cymorth yma yn Saesneg a Chymraeg.