Yr hyn rydym wedi’i gyflawni
Yr haf diwethaf, cynhaliom gwrs preswyl a ddaeth â phobl ifanc ynghyd i ddysgu am ymgyrchu ac i ddechrau creu cynllun ar gyfer yr ymgyrch y bydd y grŵp yn gweithio arno dros y flwyddyn nesaf. Gwnaethom hefyd wneud caiacio, helfa drysor, a llawer o grefftau a gemau!
Ar y gweill ...
Dros y flwyddyn nesaf, bydd y bwrdd cynghori ieuenctid yn cyfarfod unwaith y mis i weithio ar ddatblygu a gweithredu’r ymgyrch. Bydd y cyfarfodydd hyn yn gymysgedd o gyfarfodydd ar-lein ac yn y cnawd.
FFYNNU
Cynhyrchwn Ffynnu, cylchgrawn ar gyfer pob person ifanc sydd â phrofiad gofal ledled Cymru. Mae gan bobl ifanc rôl allweddol mewn llunio’r cylchgrawn, gan ddefnyddio’u sgiliau creadigol a’u diddordebau i gyfrannu. Yn y gorffennol, ymgynghorwyd â phobl ifanc ynglŷn â thema pob un cylchgrawn, gan amlygu materion pwysig sydd angen eu cynnwys yn y cylchgrawn, yn ogystal ag ysgrifennu erthyglau, a chyfranogi mewn cyfweliadau.
Gan edrych i’r dyfodol, mae arnom eisiau gwneud Ffynnu hyd yn oed yn fwy hygyrch. I gyflawni hyn, byddwn yn ymgynghori â phobl ifanc am ei gyfeiriad yn y dyfodol.